Clwb Arwyddo a Rhannu
Elusen a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2013 i ddiwallu anghenion pobl fyddar ac annog y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain. Daeth yn sefydliad corfforedig elusennol (Rhif Elusen Cofrestredig 1177316) ar 26 Chwefror 2018.
Mae croeso i bobl o bob oedran, beth bynnag yw achos y byddardod. Gellir cefnogi pob math o gyfathrebu.
Cynhelir cyfarfodydd fel arfer ar y dydd Gwener cyntaf o bob mis.
Beth ydym ni'n ei wneud...
Rhywbeth gwahanol bob mis! Bowlio - Crefft - Sesiynau bingo - Ymweliadau a'r theatr - Amgueddfeydd - Dyddiau ilawn hwyl i'r teulu - Teithiau undydd - Llogi offer - atgyweirio cymorthion clywed - Gwasanaeth Ymweliad â'r cartref
Pam ymuno â ni?
Beth mae ein haelodau yn ei ddweud..."Cyfeillgarwch a chwmni - Cael hwyl a dyddiau allan - Dysgu ac ymarfer arwyddion - Annog ymwybyddiaeth o namau clyw - Gwaith tîm - Rydym ni'n cefnogi ein gilydd - Cwrdd â ffrindiau newydd - Mae croeso i bawb"
Clwb Anhawster Clywed
Mae gennym un clwb, ar hyn o bryd, ym Penfro. Gweler ein tudalen digwyddiadau am fwy o wybodaeth.
Cysylltwch â ni am ddyddiadau ac amseroedd. 07378 611181 admin@signandshare.org.uk
Mae cyrsiau Iaith Arwyddion Prydain a chyrsiau ymwybyddiaeth o Fyddardod ar gael ledled Sir Benfro. E-bostiwch er gwybodaeth bsl@signandshare.org.uk
Cymorth Busnes - Rydym yn cefnogi busnesau lleol sydd am wneud eu gwasanaethau yn hygyrch. Cwblhewch ein harolwg trwy glicio ar y ddolen hon https://forms.gle/2CoN12U2khxcBtdG8
Darllenwch ein Hadroddiad Gwerthuso (Ebrill 2023)