Adam Guichard (Ymddiriedolwr - Cadeirydd/Hyfforddiant BSL). Byddar.
Rhian Griffiths (Ymddiriedolwr - Trysorydd). Anhawster clywed.
Violet John (Ymddiriedolwr). Anhawster clywed
Hannah Norman (Ymddiriedolwr). Byddar.
Beth Hughes (Ymddiriedolwr). Anhawster clywed
Shirley David (Ymddiriedolwr - Adnoddau Dynol) - Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain
Cefnogir y pwyllgor gan Gydlynydd rhan-amser, Maria Guichard, sydd hefyd yn fyddar. Mae gan y clwb nifer o wirfoddolwyr sydd wedi cymhwyso yn Iaith Arwyddion Prydain ac sydd â phrofiad o weithio gyda phobl fyddar a thrwm eu clyw.
Cymraeg
Mae un ymddiriedolwr, a rhai o’n gwirfoddolwyr, yn ddysgwyr Cymraeg. Rydym yn annog defnydd o’r Gymraeg.
Dewch o hyd i ni ar FaceBook. Chwilio am 'Sign and Share Club'.
Llogi Offer
Cynnal digwyddiad? Angen system dolen clywed? Eisiau rhoi cynnig ar ddyfais gwrando cyn prynu? Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy ynglyn â'n gwasanaeth llogi
Atgyweirio Cymhorthion Clywed
Gallwn ailosod/glanhau tiwbiau a darparu batris yn y rhan fwyaf o gyfarfodydd clwb, neu gallwn ymweld â chi yn eich cartref. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion
Gwasanaeth Ymweliad â'r Cartref
Ansicr a yw'r grwp yn addas i chi? Methu gadael mwy? Cysylltwch â ni a daw un o'n tîm i ymweld â chi.